Cerddoriaeth a chanu

Yng Nghymru...

Mae canu’n rhan bwysig o ddiwylliant Cymru. Yn gynnar yn yr ysgol gynradd, bydd plant yn dysgu i ganu ac mae corau yn niferus. Maent yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn Eisteddfodau ac yn canu gyda’i gilydd yn y capeli.

Ym maes cerddoriaeth, mae’r delyn Geltaidd yn dod yn ôl i ffasiwn. Weithiau caiff ei chwarae wrth i farddoniaeth gael ei adrodd. Ceir grwpiau o gerddoriaeth draddodiadol, yn ogystal â grwpiau roc neu techno sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg.

Mae’r ?yl Gerdd Dant, a gynhelir yn flynyddol, yn ?yl o ganu lleisiol, adrodd a dawnsio. Fel gyda’r Eisteddfod, mae’n symud i leoliad gwahanol bob blwyddyn.

Yn Llydaw...

Yn ogystal â dawns, mae cerddoriaeth Lydewig yn profi adfywiad ac mae nifer o’r bagadou yn cystadlu yn ogystal â chwarae yn ystod g?yliau ac mewn fest-noz.

Mae’r bagadou yn cynnwys bombardes, binious (bagbib) ac offerynnau taro ond weithiau ceir hefyd ffidlau, telynau, gitâr. Y Penn Soner yw’r prif sonneur ac ef sy’n arwain y sonneurs eraill (sonneur yw rhywun sy’n chwarae bombarde neu biniou).

Fe fywiogir y fest-noz a’r fest-deiz gan rai offerynnwyr eraill sy’n cymryd eu tro drwy’r nos: y sonneurs, cantorion kan ha diskan a grwpiau traddodiadol. Mae’r sonneurs yn chwarae offerynnau chwyth, yn aml y bombarde neu’r biniou. Dull o ganu yw’r Kan ha diskan. Mae’r kaner yn dechrau’r frawddeg ar ei ben ei hun. Mae’r diskaner yn ei gorffen gyda’r kaner cyn ei hail-adrodd ar ei ben ei hun. Mae’r kaner yna’n gorffen y frawddeg gyda’r diskaner cyn dechrau ar y frawddeg nesaf.

Daeth y grwpiau traddodiadol yn gynyddol boblogaidd yn y saithdegau. Fe ddefnyddient offerynnau traddodiadol. Heddiw, mae nifer ohonynt yn ychwanegu gitarau a syntheseisyddion. Mae rhai grwpiau yn parhau i chwarae cerddoriaeth draddodiadol, tra bo rhai eraill yn chwarae mwy o “roc Llydewig” neu gymysgedd o gerddoriaeth y byd.

| | Site Map | Follow-up of the site's activity RSS 2.0