Y tarddiad celtaidd

Ieithoedd Celtaidd a siaradwyd gan y Celtiaid a ddaeth yn wreiddiol o ganol Asia yw’r Gymraeg a’r Llydaweg.

Rhannwyd y Celtiaid i lawer llwyth ond roeddynt yn siarad yr un iaith, sef hen Geltaidd. Mae’r unig gofnodion ysgrifenedig sy’n cyfeirio at y Celtiaid yn deillio oddi wrth pobl eraill yn arbennig y Groegiaid a’r Rhufeiniaid.

Tua 1500 C.C., sefydlodd y Celtiaid yng Nghanol Ewrop. Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o’r Rhein i’r Donwy tra roeddynt yn parhau i symud i orllewin Ewrop.

Rhwng 800 a 700C.C., sefydlodd y Goedeliaid (a adnebyddir hefyd fel Gaeliaid) ym Mhrydain ond tua 600 CC gorfodwyd hwy gan y Prydeinwyr i symud i’r ynys a elwir erbyn hyn yn Iwerddon.

Ymestynnodd tiriogaeth y Celtiaid o Brydain i geg y Donwy ac i wastadedd y Po yn yr Eidal ond symudwyd hwy i’r gorllewin gan ymosodiadau ac erbyn i I?l Cesar ddechrau ei orchfygiad o Gaul, rhwng 58 a 50 C.C., roedd y rhan fwyaf o’r tiriogaeth i’r gorllewin o’r Rhein, yn Gaul a Phrydain.

Daeth diwedd i’r gwrthsafiad Galaidd drwy iddynt gael eu gorchfygu yn Alesia gan y Rhufeiniad, yn 50 C.C.. Tua 50 O.C., dechreuodd y Rhufeiniad orchfygu Prydain a sefydlont yno am bedair canrif. Dylanwadodd y Lladin ar yr ieithoedd Brethoneg a Galaidd a benthycwyd llawer o eiriau oddi wrthi. Roedd yn arferiad gan y fyddin Rufeinig i rhoi tiroedd i gyn-filwyr wedi iddynt gwblhau eu gwasanaeth. Mae’n debyg fod llawer o Brydeinwyr wedi sefydlu yn Armorica (yr enw Rhufeinig am Lydaw).

Yn y 4ydd ganrif O.C., oherwydd bygythiadau yn y dwyrain oddi wrth Sacsoniaid ac Almaenwyr gadawodd y Rhufeiniad Prydain. Gadawyd Prydain yn fregus. Roedd hyn yn gyfnod o symudiadau poblogaeth gyda’r Gwyddelod yn y gorllewin a’r Sacsoniaid yn y dwyrain a’r Llychlynwyr yn y gogledd. Yn araf ciliodd y Prydeinwyr ac aeth rhai i Gâl, yn enwedig i Armorica a Normandi, lle cawsant hyd i gymunedau a siaradai ieithoedd tebyg iddynt hwy eu hunain. Parodd yr allfudo am bedair canrif a chynyddodd yn y 6ed ganrif O.C. o dan bwysau y Sacsoniaid ym Mhrydain. Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniad roedd Prydain yn wlad Geltaidd ei hiaith. Rhyw 800 mlynedd yn ddiweddarach roedd y siaradwyr Celtaidd yn byw yng Nghymru, Yr Alban a Chernyw.

Roedd yr iaith Geltaidd erbyn hyn wedi ei rhannu i ddwy gangen: Goedeleg (neu Q-Celtic) a Brethoneg (neu P-Celtic). Rhoddodd Goedeleg enedigaeth i’r Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a Manawaidd, tra ddaeth Llydaweg, Cernyweg a’r Gymraeg o’r Frethoneg.

Mae peth anghytundeb am enedigaeth yr iaith Llydaweg. Cred un garfan ei fod wedi datblygu trwy cymysgedd o Galaidd y brodorion a Brethoneg y mewnfudwyr. Cred carfan arall fod y Brethoneg, a gyfoethogwyd gan eiriau topograffig a thechnegol Galaidd, wedi ei fabwysiadu gan y brodorion oddi wrth y mewnfudwyr. Oherwydd dylanwad ieithoedd cyfagos a gwanhad y berthynas traws-sianel, mae Brethoneg Armorica a Brethoneg Prydain wedi datblygu’n wahanol.

| | Site Map | Follow-up of the site's activity RSS 2.0